Pecyn cymorth i athrawon
Go back
Rhannu yn eich rhwydweithiau
Gall pobl ifanc helpu i ennyn diddordeb yn y cyfrifiad, ond eu rhieni a fydd yn llenwi'r holiaduron felly mae'n bwysig iawn eu bod yn ymwybodol ac yn gefnogol. Dyma rai syniadau i helpu eich myfyrwyr i gyfleu'r neges gartref.
- Gyda'n gweithgareddau gwersi hanes a daearyddiaeth, bydd y myfyrwyr yn cynnwys eu teuluoedd neu eu gwarcheidwaid ac aelodau o'r gymuned wrth ofyn iddynt rannu eu straeon. Gall hyn fod yn ffordd wych o gyfleu neges y cyfrifiad mewn cartrefi.
- Anogir y myfyrwyr i ddefnyddio fformatau digidol i adrodd eu straeon, gan olygu eu bod yn ddelfrydol i'w rhannu mewn noson rhieni rithwir.
- Cefnogwch y myfyrwyr drwy gymryd rhan yn ein cystadleuaeth, a gynhelir ym mis Ionawr. Rydym yn herio pobl ifanc i greu ymgyrchoedd i annog pobl i gwblhau'r cyfrifiad, a gallant gael effaith wirioneddol ar gael eu cymunedau i gymryd rhan.
- Soniwch am yr hyn y mae eich ysgol yn ei wneud mewn perthynas â'r cyfrifiad ar holl sianelau cyfathrebu eich ysgol. Rhannwch y wybodaeth ddiweddaraf yn yr e-gylchlythyr neu ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol eich ysgol.